2014 Rhif 2725 (Cy. 276)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Lonydd Bysiau a Thraffig sy’n Symud (Dinas a Sir Caerdydd) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dynodi’r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen yn ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau lonydd bysiau a thraffig sy’n symud at ddibenion Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004. 

Effaith ymarferol y Gorchymyn yw galluogi Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd i orfodi’r gyfraith ar dramgwyddau lonydd bysiau a thraffig sy’n symud yn yr ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn drwy gyfundrefn cyfraith sifil. 

Gellir cael Asesiad Effaith Rheoleiddiol llawn a Memorandwm Esboniadol oddi wrth: Y Gangen Orchmynion, Yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru, Swyddfeydd y Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn http://www.assemblywales.org/cy/bus-home/bus-business-fourth-assembly-laid-docs.htm

 


2014 Rhif 2725 (Cy. 276)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Lonydd Bysiau a Thraffig sy’n Symud (Dinas a Sir Caerdydd) 2014

Gwnaed                                  8 Hydref 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       14 Hydref 2014

Yn dod i rym                     10 Tachwedd 2014

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan baragraffau 9(1) a 10(1) o Atodlen 8 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004([1]), ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru([2]).

Mae Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru i Orchymyn gael ei wneud o dan y pwerau hyn mewn cysylltiad â rhan o’i ardal.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â phrif swyddog Heddlu De Cymru yn unol â gofynion paragraff 10(4) o Atodlen 8 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004.

Enwi a chychwyn

1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Lonydd Bysiau a Thraffig sy’n Symud (Dinas a Sir Caerdydd) 2014 a daw i rym ar 10 Tachwedd 2014.

Dynodi ardal gorfodi sifil

2. Mae Gweinidogion Cymru yn dynodi’r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen yn—

(a)     ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau lonydd bysiau; a

(b)     ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau traffig sy’n symud.

 

 

Ediwna Hart

Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

 

8 Hydref 2014

 

 

                                   YR ATODLEN                 Erthygl 2

Yr ardal a ddynodir yn ardal gorfodi sifil

Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys i’r cyfan o ddinas a sir Caerdydd ac eithrio—

(a)     traffordd yr M4 a’i ffyrdd ymuno ac ymadael a’r gerbytfordd gylchdroi (yr A4054) o amgylch Cyffordd 32;

(b)     cefnffordd yr A470 gan gynnwys ei ffyrdd ymuno ac ymadael gogleddol sy’n gyfagos i gerbytffordd gylchdroi’r A4054, o’r ffin â Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf sydd oddeutu 240 o fetrau i’r gogledd o gylchfan Ynys Bridge y B4262 hyd at gerbytffordd gylchdroi Cyffordd 32 yr M4 drwy’r ffyrdd ymuno ac ymadael gogleddol;

(c)     yr A48(M) o’r ffin ag ardal weinyddol Dinas Casnewydd hyd at y ffyrdd ymuno ac ymadael wrth Gyffordd Llaneirwg; a

(d)     yr A4232 o Gyffordd 33 yr M4, gan gynnwys ei cherbytffordd gylchredol, hyd at ei chyffordd â cherbytffordd gylchdroi’r A48 wrth Groes Cwrlwys drwy’r ffyrdd ymuno ac ymadael gogleddol.



([1]) 2004 p.18.        

([2]) Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Yn rhinwedd adran 92 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004, dynodwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn awdurdod cenedlaethol priodol o ran Cymru, at ddibenion Rhan 6 o'r Ddeddf honno.